Hanes y cwmni
Sylweddolodd GE Vernova botensial ynni niwclear yn y 1950au, pan aeth ei adweithydd dŵr berwedig cyntaf (BWR) ar-lein yn Vallecitos, California (UDA). Ddeugain mlynedd – a nifer o welliannau dylunio – yn ddiweddarach, cydweithiodd GE Vernova a Hitachi ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch (ABWR). Mae pedwar o weithfeydd ABWR Japan wedi gweithredu'n llwyddiannus ers blynyddoedd. Ysgogodd llwyddiant ABWR GE Vernova a Hitachi i ffurfio cynghrair yn y 2000au cynnar.
Mae dyluniad diweddaraf GEH – yr adweithydd modiwlaidd bach BWRX-300 (SMR) – yn defnyddio cyfluniad tanwydd trwyddedig llwyddiannus, datrysiadau concrit uwch, a thechnegau adeiladu arloesol sy'n caniatáu iddo gael ei adeiladu'n fforddiadwy a gweithredu mewn llai o amser na dyluniadau eraill.
Mae GEH yn ddarparwr blaenllaw byd-eang o adweithyddion uwch, tanwydd a gwasanaethau niwclear.
Darllen pellach
Sylwadau'r cyhoedd
Mae sylwadau’r cyhoedd yn rhan o ofynion y rheolyddion ar gyfer GDA. Bydd sylwadau perthnasol yn cael eu gweld gan reolyddion a'u defnyddio yn y broses GDA.